Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 4 Mawrth 2019 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2019(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Delyth Lewis, Rheolydd Prosiect Senedd Ieuenctid Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan aelodau'r Comisiwn.
Roedd Eric Gregory wedi ymddiheuro nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod yn ôl y bwriad.
1.2 Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid a'r Dathliadau Ugain Mlynedd
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid
Clywodd y Comisiynwyr am ddigwyddiad llawn cyntaf y Senedd Ieuenctid, a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol.
Dywedodd y Llywydd y bu’n brofiad cynhyrfus ac roedd yn canmol pawb a fu ynghlwm wrth y digwyddiad a’r holl waith paratoi.
Gellir gweld cyfarfod y Senedd Ieuenctid yma:http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/79aa22a2-0253-4a7e-badb-3baf239e5ff3?autostart=True
Trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol
Cafodd y Comisiynwyr wybod am y trefniadau i nodi’r ffaith bod ugain mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y dathliadau’n dechrau ar ddyddiad yr etholiad cyntaf, sef 6 Mai.
Cytunodd y Comisiynwyr fod hyn yn gyfle unigryw i feithrin cysylltiadau â phobl Cymru. Trafodwyd cyfleoedd i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y gweithgareddau ac i roi cyfle iddynt arwain digwyddiadau yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain, gan danlinellu ei bod yn arbennig o bwysig estyn allan i gymunedau difreintiedig nad ydynt yn ymwneud fawr ddim â’r broses wleidyddol.
Trafododd y Comisiynwyr ei bod yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad ymrwymo i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau, naill ei fel unigolion neu fel rhan o bwyllgorau, gan ddysgu o brofiadau Senedd@.
Cafwyd trafodaeth fanwl ynghylch y posibilrwydd o gynnal Cynulliad Dinasyddion a'r posibilrwydd y gallai hyn ysgogi pobl i feddwl sut y byddent yn gallu cyfrannu at waith y Cynulliad yn y dyfodol. Roedd gwahanol fodelau ar gael, ac roedd y cynnig yn ffafrio gofyn i gwmni arbenigol recriwtio cyfranogwyr ar sail demograffeg gytbwys.
3 Capasiti adnoddau'r Cynulliad
Trafododd y Comisiynwyr y sefyllfa ddiweddaraf o ran adnoddau staffio. Yn benodol, cafwyd trafodaeth am y risg a oedd yn wynebu’r sefydliad os na fydd digon o staff i ddiwallu anghenion, a nodwyd yn flaenorol fel pwysau posibl, yn ymwneud â gwaith Brexit.
Cytunodd y Comisiwn i awdurdodi swyddogion i drafod a datblygu cynllun busnes ar gyfer cynyddu nifer y staff fel bod deg mwy na’r uchafswm presennol, a hynny drwy gadw o fewn y gyllideb bresennol. Byddai angen trafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn a'r Pwyllgor Cyllid.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad
Rhoddodd y Llywydd wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor Cyllid ar 4 Ebrill.
Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.
5 Papurau i’w nodi:
5.1 Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf a gaiff ei chyflwyno’n rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.
6 Unrhyw Fater Arall
· Isafswm cyflog - soniodd Joyce Watson am y setliad cyflog a gafodd staff y Comisiwn yn ddiweddar, gan ei groesawu fel cytundeb cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yn teimlo y dylai isafswm cyflog staff sy'n gweithio yma dan gontract gyfateb i’n hisafswm cyflog ni. Roedd y comisiynwyr yn gefnogol o ran egwyddor a gofynnwyd am ragor o wybodaeth er mwyn medru penderfynu ar y mater mewn cyfarfod arall.
· Tribiwnlys - Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Dribiwnlys Cyflogaeth a oedd yn mynd rhagddo.
Yn ystod y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cwblhau eu Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau, a chytunwyd ar Ymatebion i argymhellion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.